Telerau Defnydd y Porth Landlordiaid ar gyfer Landlordiaid
-
Cyflwyniad
- Croeso i delerau defnydd y Porth Landlordiaid a Chyfeiriadau Tenantiaid (y "Porth Landlordiaid"). Mae'r rhain yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol, felly darllenwch nhw'n ofalus. Mae'r Porth Landlordiaid yn darparu system i chi gofnodi gwybodaeth am Denantiaid mewn eiddo rhent at y dibenion a bennir yn ein Polisi Preifatrwydd.
- Fel Landlord, neu fel cyflogai neu asiant i Landlord, y telerau defnydd hyn (y “Telerau Defnydd”) sy’n llwyr lywodraethu eich defnydd o'r Porth Landlordiaid. Cytundeb yw'r telerau rhyngoch chi (“chi”, “eich”) a Landlord Tap Ltd o Suite G21 Innovation Way, Stoke-On-Trent, England, ST6 4BF (“ni”, “ein”). Mae'r Telerau Defnydd hyn yn cynnwys ein Polisi Preifatrwydd.
-
Yn y Telerau Defnydd hyn, mae i'r geiriau canlynol yr ystyron canlynol:
- "GDPR" yw Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE 2016/679
- “Landlord” yw unigolyn neu endid sy'n prydlesu eiddo i rywun arall. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid preifat, asiantau rheoli, cynghorau a chymdeithasau tai;
- “Personél” yw eich cyflogeion, ymgynghorwyr, asiantau, cynrychiolwyr a chontractwyr, lle bo hynny'n berthnasol;
- “Tenant” yw'r person neu'r bobl sy'n gyfrifol am dalu taliadau dŵr a/neu garthffosiaeth yn yr eiddo yr ydych chi'n perthyn arno/arnynt neu yr ydych chi'n gyfrifol amdano/amdanynt; a
- “Cwmni Dŵr” yw unrhyw ddarparydd neu ddarparwyr gwasanaethau dŵr a/neu garthffosiaeth awdurdodedig y caniateir iddynt ddefnyddio'r Porth Landlordiaid.
- Gallwn ddiwygio'r Telerau Defnydd hyn o bryd i'w gilydd. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau o'r fath. Os byddwch chi'n parhau i ddefnyddio'r Porth Landlordiaid ar ôl i ni wneud unrhyw ddiwygiadau o'r fath, bydd hynny'n dynodi eich bod yn derbyn y diwygiadau.
-
Eich rhwymedigaethau
-
Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith diogelu data, rhaid i chi:
-
rhoi rhybudd digonol i Denantiaid y byddwch yn ein darparu eu data personol ar ein cyfer ac y byddwn ni a'r Cwmnïau Dŵr yn ei ddefnyddio yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.
Rhaid i'r hysbysiad hwnnw gydymffurfio â gofynion y GDPR, deddfwriaeth diogelu data'r DU a'r Telerau Defnydd hyn. ; a - sicrhau eich bod yn cadw tystiolaeth i'n bodloni eich bod wedi hysbysu'r Tenantiaid yn unol â chymal 2.1.1. Gallai hyn fod ar ffurf cofnod ysgrifenedig sy'n cadarnhau'r hysbysiad. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ar ein cyfer os byddwn ni'n gofyn amdani.
-
rhoi rhybudd digonol i Denantiaid y byddwch yn ein darparu eu data personol ar ein cyfer ac y byddwn ni a'r Cwmnïau Dŵr yn ei ddefnyddio yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.
-
Yn ogystal, rhaid i chi, a rhaid i chi sicrhau bod eich Personél:
- yn defnyddio'r Porth Landlordiaid yn unol â'r Telerau Defnydd hyn;
- yn cadw’ch holl fanylion mewngofnodi'n ddiogel gan atal unrhyw fynediad diawdurdod i'r Porth Landlordiaid;
- yn cyfyngu ar fynediad i'r Porth Landlordiaid i Bersonél ag awdurdod yn unig, a sicrhau, , y diddymir mynediad unrhyw gyflogai at y Porth Landlordiaid cyn gynted ag y daw cyfnod eu cyflogaeth i ben;
- yn sicrhau bod yr holl fanylion cyswllt gofynnol y darparwch ar ein cyfer yn gyfoes;
- yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau sy'n berthnasol i'ch defnydd o'r Porth Landlordiaid ac yr ydych yn cael eich hysbysu amdanynt; ac
- yn ein hysbysu'n brydlon gan ddarparu gwybodaeth berthnasol os dewch yn ymwybodol, neu os byddwch yn amau y bu unrhyw dor-amod ar y Telerau Defnydd hyn, neu unrhyw dwyll, firws neu wall a allai effeithio ar y Porth Landlordiaid.
-
Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith diogelu data, rhaid i chi:
-
Cyfyngiadau ar ddefnydd
-
Rhaid i chi beidio, a rhaid i chi sicrhau nad yw eich Personél byth
- yn lanlwytho gwybodaeth rydych chi'n gwybod neu'n amau ei bod yn anghywir neu sydd wedi darfod;
- yn anfon unrhyw firysau i'r Porth Landlordiaid, neu unrhyw ddeunydd sy'n anghyfreithlon, yn niweidiol, yn torri'r rheolau, yn hwyluso gweithgarwch anghyfreithlon, a/neu sy'n achosi niwed neu anaf i unrhyw berson neu eiddo;
- yn cyrchu'r Porth Landlordiaid nac unrhyw ran ohono i greu cynnyrch neu wasanaeth sy'n cystadlu â'r Porth Landlordiaid;
- yn defnyddio'r Porth Landlordiaid i ddarparu gwasanaethau ar gyfer trydydd parti; neu
- yn newid, yn diwygio, yn echdynnu, yn codi data, yn cywain nac yn ailddefnyddio unrhyw ran o'r Porth Landlordiaid, nac yn copïo unrhyw ran o'r Porth Landlordiaid nac unrhyw ddeunydd arall a ddarperir gennym at ddibenion masnachol heb ein caniatâd.
- Ac eithrio o dan yr amodau y cyfeirir arnynt yn benodol yn y Telerau Defnydd hyn, nid ydym yn rhoi unrhyw ganiatâd i chi na'ch Personél ddefnyddio ein hawliau eiddo deallusol.
-
Rhaid i chi beidio, a rhaid i chi sicrhau nad yw eich Personél byth
-
Cymorth a chynnal-a-chadw
- Os bydd unrhyw broblemau, materion a/neu ddiffygion yn codi wrth gofrestru neu wrth gyrchu'r Porth Landlordiaid, rydyn ni'n hapus i ddarparu cymorth dros y ffôn neu trwy e-bost (a fydd ar gael ar adegau penodol).
-
Ein rhwymedigaeth
- Nid ydym yn cynnig unrhyw warant na honiad y bydd eich defnydd o'r Porth Landlordiaid yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau.
- Ni fyddwn yn atebol am unrhyw oedi wrth gyflawni, neu am fethiant i gyflawni, unrhyw un o'n rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnydd hyn, a achosir yn uniongyrchol gan unrhyw ddigwyddiad, gweithred, diffyg gweithredu neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.
- I'r holl raddau y mae'r gyfraith yn eu caniatáu, ni fyddwn yn atebol i chi o dan unrhyw amgylchiadau o gwbl am unrhyw golled neu niwed yr ydych yn ei ddioddef neu'n dod iddo o ganlyniad i'ch defnydd o'r Porth Landlordiaid.
-
Eich rhwymedigaeth
- Byddwch yn ein hindemnio rhag unrhyw golledion, atebolrwydd, costau neu dreuliau yr ydym yn eu dioddef neu'n eu tynnu’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol mewn cysylltiad â’ch methiant i roi digon o rybudd i Denantiaid y gallwn ni a'r Cwmnïau Dŵr gyrchu a defnyddio eu data personol yn unol â'r Telerau Defnydd yma, neu sy'n codi o ganlyniad i hyn.
-
Diddymu, atal a therfynu
- Cewch ddiddymu eich cofrestriad â'r Porth Landlordiaid trwy gysylltu â ni yn support@landlordtap.co.uk
-
Terfynir eich hawl i ddefnyddio'r Porth Landlordiaid yn awtomatig os:
- ydyn ni'n credu (ar sail ein disgresiwn ni a neb arall) eich bod chi neu eich Personél yn camddefnyddio'r Porth Landlordiaid yma, neu nad ydych yn cydymffurfio â'r Telerau Defnydd hyn fel arall; neu
- eich bod yn diddymu'ch cofrestriad.
-
Ar ôl terfynu neu atal y Telerau Defnydd hyn:
- ni fydd gennych yr hawl i ddefnyddio'r Porth Landlordiaid mwyach;
- Bydd Cymalau 5, 6, 7, 8 a 9 yn dal i fod mewn grym ac yn hollol weithredol; a
- bydd gennym ni, a'r Cwmnïau Dŵr, yr hawl i gadw data sydd wedi cael ei lanlwytho gennych chi neu ar eich rhan i'r Porth Landlordiaid yn unol â'r polisïau cadw data.
-
Diogelu Data
-
Mae pob parti yn cydnabod ac yn cytuno:
- ei fod yn rheolydd data mewn perthynas ag unrhyw ddata personol y mae'n ei brosesu yn unol â'r Telerau Defnydd hyn; ac
- y bydd yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan yr holl gyfreithiau diogelu data a phreifatrwydd (gan gynnwys, oni bai, a hyd nes nad yw'n uniongyrchol berthnasol yn y DU, y GDPR ac unrhyw gyfreithiau cenedlaethol sy'n ei orfodi, rheoliadau a deddfwriaeth eilaidd, fel y cânt eu diwygio neu eu diweddaru o bryd i'w gilydd, yn y DU, ac unrhyw ddeddfwriaeth sy'n olynu'r GDPR neu Ddeddf Diogelu Data 1998).
-
Mae pob parti yn cydnabod ac yn cytuno:
-
Darpariaethau Cyffredinol
- Heblaw lle bo'r Telerau Defnydd yn nodi hynny'n benodol, nid oes gan unrhyw berson nad yw'n barti i'r telerau yr hawl i'w gorfodi. Ni chewch drosglwyddo nac aseinio unrhyw un o'ch hawliau neu'ch rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnydd hyn heb gael ein caniatâd ymlaen llaw.
- Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y cawn ddefnyddio asiantau neu isgontractwyr i'n cynorthwyo i ddarparu'r Porth Landlordiaid.
- Os na ellir gorfodi unrhyw ran o'r Amodau Defnydd hyn, os ydynt yn anghyfreithiol neu'n ddi-rym mewn unrhyw awdurdodaeth berthnasol, yna gwahanir y rhan o dan sylw wrth weddill y Telerau Defnydd hyn, a bydd y gweddill yn aros yn ddilys a bydd modd eu gorfodi.
- Y Telerau Defnydd hyn yw'r cytundeb llawn rhyngom mewn perthynas â'ch defnydd o'r Porth Landlordiaid. Ni chaiff unrhyw warant ei ymhlygu, ac ni fydd unrhyw effaith iddi oni bai ei bod yn cael ei chynnwys yn benodol mewn unrhyw newidiadau i'r Telerau Defnydd hyn y byddwn yn hysbysu eich amdanynt ar yr adeg briodol.
- Caiff y Telerau Defnydd hyn ac unrhyw anghydfodau neu hawliau sy'n codi ohonynt neu mewn perthynas â nhw (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau anghontractiol) eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr drostynt
Amdanom Ni
Cwmni a sefydlwyd gan Water UK yw Landlord TAP Ltd er mwyn datblygu un wefan genedlaethol i’w gwneud yn haws i landlordiaid ac asiantau rheoli roi gwybodaeth i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth mewn perthynas â thenantiaid sy’n gyfrifol am daliadau dŵr yn eu heiddo.
Mae gan y wefan hon a'i chynnwys hawlfraint Landlord TAP Ltd 2014. Cedwir pob hawl.
v8.4.23
Cysylltiadau Defnyddiol
Message Details
Loading...